Dietrich Bonhoeffer
Diwinydd Lutheraidd ac awdur Almaenig oedd Dietrich Bonhoeffer (4 Chwefror 1906 - 9 Ebrill 1945).Ganed Bonhoeffer yn ninas Breslau (Wroclaw yng Ngwlad Pwyl heddiw). Astudiodd ym Merlin (1924-1927) ac Efrog Newydd (1930). Datblygodd y syniad fod rhaid i'r eglwys fod yn ''sanctorum communio'', cymuned o'r saint. Bu'n weinidog yn Llundain yn 1933 a 1934. Wedi dychwelyd i'r Almaen, datblygodd i fod yn wrthwynebydd i Natsïaeth, a bu ganddo ran yn y cynllun gan swyddogion y fyddin ac eraill i ladd Adolf Hitler. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn Ebrill 1943, wedi i'r awdurdodau ddarganfod ei fod yn darparu arian i alluogi Iddewon i ddianc i'r Swistir. Wedi'r ymdrech aflwyddiannus i ladd Hitler ar 20 Gorffennaf 1944, darganfuwyd ei gysylltiadau a'r cynllun, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Dienyddiwyd ef yng ngwersyll carchar Flossenbürg. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6