Raymond Chandler
Nofelydd, llenor straeon byrion, a sgriptiwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Raymond Thornton Chandler (23 Gorffennaf 1888 – 26 Mawrth 1959) sy'n nodedig fel un o feistri ffuglen drosedd yn yr iaith Saesneg. Ei gymeriad enwocaf ydy'r ditectif preifat Philip Marlowe, un o arwyr y genre ''hardboiled'' o ffuglen dditectif.Ganed ef yn Chicago, Illinois, Unol Daleithiau America. Gwyddeles oedd ei fam, ac o 1896 i 1912 trigiannodd Chandler gyda hi yn Lloegr, a derbyniodd ddinasyddiaeth Brydeinig. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau ym 1912 ac ymsefydlodd yng Nghaliffornia. Ym 1917, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, teithiodd i Victoria, British Columbia, ac ymunodd â Byddin Alldeithiol Canada. Gwasanaethodd yn y ffosydd ar Ffrynt y Gorllewin, a chafodd ei hyfforddi yn yr Awyrlu Brenhinol. Dychwelodd i Galiffornia ym 1919 a chychwynnodd ar yrfa fusnes yn y diwydiant olew. Erbyn 1931, fe'i dyrchafwyd yn is-lywydd y Dabney Oil Syndicate, ond cafodd ei ddiswyddo blwyddyn yn ddiweddarach oherwydd ei alcoholiaeth a'i ymddygiad personol.
Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, trodd Chandler at ysgrifennu i ennill ei damaid, a chyhoeddwyd ei stori fer gyntaf yn y cylchgrawn pwlp ''Black Mask'' ym 1933. Dechreuodd gweithio yn Hollywood ym 1943, ac ysgrifennai'r sgriptiau ar gyfer sawl clasur sinema drosedd, gan gynnwys y ''films noirs'' ''Double Indemnity'' (1944), ''The Blue Dahlia'' (1946), a (gyda Czenzi Ormonde) ''Strangers on a Train'' (1951).
Ysgrifennodd Chandler saith nofel, pob un yn ymwneud â'r ditectif Philip Marlowe: ''The Big Sleep'' (1939), ''Farewell, My Lovely'' (1940), ''The High Window'' (1942), ''The Lady in the Lake'' (1943), ''The Little Sister'' (1949), ''The Long Goodbye'' (1953), a ''Playback'' (1958). Cyhoeddodd hefyd sawl casgliad o straeon byrion, gan gynnwys ''Five Murderers'' (1944). Bu farw Raymond Chandler yn La Jolla, Califfornia, yn 70 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20