Leonhard Euler
Mathemategydd a ffisegydd arloesol o'r Swistir oedd Leonhard Euler (15 Ebrill 1707 – 18 Medi 1783). Gwnaeth ddarganfyddiadau pwysig mewn ystod eang o feysydd megis calcwlws gorchfychanion a theori graff. Ef hefyd gyflwynodd lawer o'r terminoleg a'r nodiant mathemategol modern, yn enwedig ar gyfer dadansoddi mathemategol. Mae ef hefyd yn enwog am ei waith ar fecaneg, deinameg hylifol a seryddiaeth.Treuliodd Euler y rhan fwyaf o'i oes yn St Petersburg, Rwsia ac yn Berlin. Caiff ei gyfri fel y mathemategydd pwysicaf yn y 18g, ac un o'r mwyaf erioed drwy'r byd. Mae hefyd yn un o'r mathemategwyr mwyaf cynhyrchiol o ran ei gyhoeddiadau. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4