Elizabeth Gurley Flynn
| dateformat = dmy}}Ffeminist gweithredol, Americanaidd oedd Elizabeth Gurley Flynn (7 Awst 1890 - 5 Medi 1964) a oedd hefyd yn hunangofiannydd, newyddiadurwr, undebwr llafur, ymgyrchydd, a gwleidydd. Ei llysenw oedd "The Rebel Girl".
Fe'i ganed yn Concord, New Hampshire , Unol Daleithiau America, bu farw yn Moscfa, Rwsia ac fe'i claddwyd ym Mynwent Almaenig Waldheim, Chicago.
Roedd Elizabeth Gurley Flynn yn ffeministaidd a chwaraeodd ran flaenllaw o fewn mudiad Gweithwyr Diwydiannol y Byd (''Industrial Workers of the World'', neu IWW). Roedd Flynn yn un o aelodau gwreiddiol Undeb Hawliau Sifil America, ac roedd yn amlwg iawn o ran hawliau menywod, rheoli cenhedlu, a phleidlais menywod (neu 'etholfraint'). Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol UDA yn 1926 ac yn hwyr yn ei bywyd, yn 1961, daeth yn gadeirydd y blaid. Bu farw yn ystod ymweliad â'r Undeb Sofietaidd, lle cafodd angladd gwladwriaethol gyda gorymdeithiau yn y Sgwâr Coch, cynhebrwng a fynychwyd gan dros 25,000 o bobl. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16