Elizabeth Goudge
| dateformat = dmy}}Awdures o Loegr oedd Elizabeth Goudge (24 Ebrill 1900 - 1 Ebrill 1984) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdures storiau byrion ac awdur plant. Ei henw llawn oedd Elizabeth de Beauchamp Goudge. Enillodd Fedal Carnegie am lyfrau plant Saesneg, drwy wledydd Prydain ym 1946 ar gyfer ''The Little White Horse''. Roedd yn awdur poblogaidd yn y DU a'r Unol Daleithiau o'r 1930au i'r 1970au. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: ''The Little White Horse''.
Yn 1993 cafodd un o'i llyfrau ei lên-ladrata gan Indrani Aikath-Gyaltsen, pan gyhoeddodd ail-bobiad ohoni, gan hawlio adolygiadau arbennig o dda gan ''The New York Times'' a ''The Washington Post'' cyn i'r beirniaid llenyddol ddarganfod ei ffynhonnell - llyfr gan Elizabeth Goudge. Yn 2001 neu 2002, nododd J. K. Rowling mai ''The Little White Horse'' oedd un o'i hoff lyfrau ac un o'r ychydig sydd â dylanwad uniongyrchol ar gyfres Harry Potter. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20