Michelangelo

Roedd Michelangelo di Lodovico Buonarroti (6 Mawrth 147518 Chwefror 1564), a elwir yn Michelangelo, yn gerflunydd, peintiwr, pensaer a bardd o gyfnod y Dadeni Eidalaidd. Ynghyd â'i gyfoediwr a'i gyd-ddyn o Fflorens, Leonardo da Vinci, caiff Michelangelo ei ystyried fel un o "wŷr y Dadeni", dynion a all droi eu dwylo at unrhyw faes a'i feistroli'n llwyr.

Fe'i ganwyd yn Caprese, ger Arezzo yn yr Eidal, yn fab i'r banciwr Ludovico di Leonardo di Buonarotto Simoni a'i wraig Francesca di Neri del Miniato di Siena.

Roedd yr athrylith hwn wedi cwblhau un o'i gampweithiau, y ''Pietà'' sydd heddiw ym Masilica Sant Pedr (''San Pietro'') yn Rhufain, cyn ei fod yn ddeg ar hugain oed, ac un arall, y cerflun o ''Dafydd'', yn ei dri degau cynnar. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn ystyried ei hun yn gerflunydd cyn pob dim, creodd Michelangelo hefyd ddau o'r peintiadau ffresgo mwyaf dylanwadol yn hanes celf ar nenfwd a wal ddwyreiniol y Cappella Sistina (hefyd yn Rhufain). Meistrolodd Michelangelo bensaernïaeth yn ei henaint a cynlluniodd gromen San Pietro yn 70 oed. Roedd effaith yr arlunydd ar bob un o'r maesydd yma yn chwyldroadol.

Yn wahanol i lawer o artistiaid cyn y Dadeni Dysg, cydnabwyd Michelangelo fel athrylith tra'r oedd yn dal yn fyw, ac fe'i galwyd yn ''Il Divino'', "yr un dwyfol" (llysenw addas o ystyried ei fod yn ŵr crefyddol iawn). Cyhoeddwyd dau fywgraffiad ohono tra yn fyw, un gan Giorgio Vasari, cyfaill i Michelangelo, a'r llall gan Ascanio Condivi. Diolch i Vasari yn bennaf cafodd Michelangelo ei ystyried fel copa pob cyrhaeddiad yng nghelf am ganrifoedd wedi ei farwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 13 canlyniadau o 13 ar gyfer chwilio 'Michelangelo', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1973
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  2. 2
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1973
    Llyfr
  3. 3
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1979
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  4. 4
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1979
    Llyfr
  5. 5
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1964
    Llyfr
  6. 6
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1973
    Awduron Eraill: “...Michelangelo...”
    Rhif Galw: R 20
    Llyfr
  7. 7
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1955
    Rhif Galw: K 119
    Llyfr
  8. 8
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1940
    Rhif Galw: K 119
    Llyfr
  9. 9
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1955
    Rhif Galw: K 119
    Llyfr
  10. 10
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1941
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  11. 11
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1941
    Llyfr
  12. 12
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1966
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  13. 13
    gan Michelangelo
    Cyhoeddwyd 1966
    Llyfr