Heinrich Schliemann

Archaeolegydd amatur o'r Almaen a wnaeth ddarganfyddiadau syfrdanol ar safleoedd Caerdroea yn Nhwrci a Mycenae a Tiryns yng Ngwlad Groeg oedd Heinrich Schliemann (6 Ionawr 1822 - 26 Rhagfyr 1890).

Ganed Schliemann yn Neubukow, yn fab i weinidog Protestannaidd tlawd. Bu farw ei fam pan oedd yn naw oed. Datblygodd ddiddordeb yng weithiau Homeros yn ieuanc, ac wedi darllen yr ''Iliad'', penderfynodd y byddai ryw rydd yn chwilio am Gaerdroea.

Bu raid iddo adael yr ysgol yn 14 oed, ac aeth yn brentis siopwr yn Fürstenberg. Yn 1844, cafodd waith gyda chwmni allforio a mewnforio, a dangosodd dalent anarferol. Gyrrwyd ef i St Petersburg yn 1846, lle dysgodd Rwseg a Groeg. Erbyn 1858, roedd yn ŵr cyfoethog, a defnyddiodd ei gyfoeth i dalu am ei ymchwiliadau ym maes archaeoleg.

Penderfynodd Schliemann mai Hissarlik yng ngogledd-orllewin Anatolia oedd safle Caerdroea, ac yn 1871 dechreuodd gloddio yno. Yn 1873, darganfu drysorau aur a alwidd yn "Drysor Priam", ar ôl Priam, brenin Caerdroea adeg Rhyfel Caerdroea. Cyhoeddodd ''Troja und seine Ruinen'' yn 1875.

Yr un flwyddyn, dechreuodd gloddio yn Orchomenus, ac yn 1876 yn Mycenae. Yno, cafodd hyd i nifer o feddau, gydag esgyrn a thrysorau aur, yn cynnwys masg aur a alwodd yn "Fasg Agamemnon" ar ôl Agamemnon, brenin Mycenae yng nghyfnod yr Iliad.

Bu farw yn Napoli yn 1890, ar ei ffordd yn ôl i Wlad Greog ar ôl llawdriniaeth yn yr Almaen. Aed a'i gorff i Athen i'w gladdu. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 14 canlyniadau o 14 ar gyfer chwilio 'Schliemann, Heinrich', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  2. 2
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  3. 3
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  4. 4
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  5. 5
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  6. 6
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  7. 7
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  8. 8
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  9. 9
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  10. 10
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  11. 11
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  12. 12
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: L 024
    Llyfr
  13. 13
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1983
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  14. 14
    gan Schliemann, Heinrich
    Cyhoeddwyd 1983
    Llyfr