Jens Peter Jacobsen
Nofelydd. awdur straeon byrion, a bardd yn yr iaith Ddaneg a botanegydd o Ddenmarc oedd Jens Peter Jacobsen (7 Ebrill 1847 – 30 Ebrill 1885).Ganwyd yn Thisted yng ngogledd Jylland yn fab i farsiandïwr. Astudiodd y gwyddorau naturiol ym Mhrifysgol Copenhagen. Cyfieithodd ddau brif waith Charles Darwin i'r Ddaneg: ''On the Origin of Species'' yn 1871–73 a ''The Descent of Man'' yn 1874.
Dan ddylanwad y beirniad ac ysgolhaig llenyddol Georg Brandes, un o'i ddarlithwyr yn Copenhagen, daeth Jacobsen i flaen y gad yn y mudiad Naturiolaidd yn llên Denmarc. Cyhoeddodd ei waith cyntaf, y nofel fer ''Mogens'', yn 1872. Ysgrifennodd ddwy nofel, ''Fru Marie Grubbe'' (1876) a ''Niels Lyhne'' (1880), ac un gyfrol o straeon byrion, ''Mogens og andre Noveller'' (1882).
Teithiodd i'r Eidal tua 1873 ac yno cafodd dwbercwlosis, afiechyd a fu Jacobsen yn dioddef hyd nes ei farwolaeth. Treuliodd ddeuddeng mlynedd olaf ei oes yn gweithio yn ei boen beunyddiol ac ysgrifennu'n araf iawn. Bu farw o dwbercwlosis yn Thisted yn 38 oed. Wedi ei farwolaeth, cesglid ei farddoniaeth yn y gyfrol ''Digte og udkast'' (1886). Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20